Mae Ffeithiau Bwyd Agored yn 100% am ddim ac yn annibynnol ar y diwydiant bwyd. Mae angen eich help arnom i barhau a thyfu'r prosiect.
Mae Ffeithiau Bwyd Agored yn 100% am ddim ac yn annibynnol ar y diwydiant bwyd. Mae angen eich help arnom i barhau a thyfu'r prosiect.
Ffeithiau Bwyd Agored yw "Wicipedia bwyd", y gronfa ddata fwyaf o gynhyrchion bwyd yn y byd sy'n rhad ac am ddim. Fe ddechreuon ni Open Food Facts oherwydd ein bod ni'n credu bod gwybodaeth am yr hyn rydyn ni'n ei fwyta o ddiddordeb cyhoeddus a bod angen iddi fod yn gyhoeddus, yn rhad ac am ddim ac yn agored.
Pan ddechreuon ni Ffeithiau Bwyd Agored dewison ni yn bendifaddau fod yn hollol ddi-elw er mwyn creu yr argraff fwyaf trwy ollwng ein gwaith am ddim. Dewison ni hefyd, yr un mor bendifaddau, ein bod am weithio'n hollol annibynnol o'r diwydiant bwydac felly i ymwrthod ag unrhyw ariannu fyddai'n peryglu ein cenhadaeth.
Mae angen eich help arnom i barhau i weithredu ac i dyfu Ffeithiau Bwyd Agored. Os gwelwch yn dda, ystyriwch gyfrannu at yr achos er cynnal a chadw Ffeithiau Bwyd Agored.
Diolch o'r galon, <0>
Anca, Éloïse, Florence, Léonore, Marie, Christian, Ludovic,
Sébastien, Vincent0> a phawb o dîm Ffeithiau Bwyd Agored.
Technoleg:Datblygu, cynnal a chadw gweinwyr ar gyfer y gronfa ddata, datblygu ac ychwanegu at nodweddion hynod newydd ar gyfer yr app i declynnau mudol a'r wefan.
Pobl a phrosiectau: Rhoi ein cefnogaeth orau i gymuned Ffeithiau Bwyd Agored , gweithio gydag ymchwilwyr, a sicrhau bod ein data cynhyrchion bwyd yn cael yr effaith fwyaf ar ein hiechyd, ein planed, a chymdeithas.